Location: Cartrefi Conwy - North Wales
Salary: £Pecyn Chyflog a Cystadleuol
Posted: 12 hours ago
Closes: 28 May, 2025
Contract: Full Time

Cyfarwyddwr Gweithredol Eiddo

Mae Cartrefi Conwy yn gymdeithas dai flaenllaw, sy’n rheoli tua 4,300 o gartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel ar gyfer dros 9,000 o denantiaid ledled Conwy. Fel un o gyflogwyr mwyaf Gogledd Cymru, rydym yn mynd y tu hwnt i dai, gan greu cyfleoedd i’n cwsmeriaid, ein cydweithwyr a’n cymunedau ffynnu.

Mae ein Grwp yn cynnwys Creu Menter, ein his­gwmni sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae’r fenter gymdeithasol hon yn ailfuddsoddi’r hall elw ac yn adeiladu cyfleoedd cyflogaeth, gan gefnogi cymunedau lleol.

Gyda chyfleuster gweithgynhyrchu pren modern yn Y Rhyl a thimau gwasanaeth cynnal a chadw eiddo hanfodol, mae’r is-gwmni hwn yn sicrhau bod ein heiddo yn parhau i fad yn fforddiadwy, o ansawdd uchel, yn ddiogel ac yn gynaliadwy. Ar 6l lansio ein Cynllun Corfforaethol tair blynedd Gyda’n Gilydd yn Ebrill 2025, rydym bellach yn chwilio am Gyfarwyddwr Gweithredol Eiddo eithriadol i arwain ein timau eiddo gan gynnwys Datblygu Adeiladu Newydd, Rheoli Asedau, a Gwasanaethau Eiddo.

Mae’r r6l arweinyddiaeth strategol hon yn hanfodol wrth ddarparu atebion tai amrywiol sy’n diwallu anghenion esblygol ein cymunedau wrth gynnal cydymffurfiaeth a chynaliadwyedd yn unol a’n blaenoriaethau strategol.

Fel arweinydd ymddiriededig ac aelod allweddol o’n Tim Rheoli Uwchradd a Chyfarwyddwyr, byddwch yn:

  • Arwain trwy esiampl, gan ddangos ymrwymiadau craidd Cartrefi Conwy: Rydym yn gwneud y peth iawn, rydym yn arwain trwy esiampl, ac rydym yn gryfach gyda’n gilydd
  • Gyrru twf strategol, arloesedd a rhagoriaeth mewn datblygu a rheoli eiddo.
  • Sicrhau bod ein cartrefi yn cael eu cynnal yn dda, yn ddiogel ac yn effeithlon o ran ynni, gan ddiogelu asedau a gwella lles tenantiaid.
  • Meithrin dull gweithredu “un tlm, gan feithrin cydweithredu ar bob lefel.
  • Cynnig arweiniad ac arweinyddiaeth strategol i’r Bwrdd, y Tim Gweithredol, a’r timau gweithrediadol, gan lunio polisi a gwneud penderfyniadau.
  • Mae’n rhaid i ni gyflwyno lleisiau’r tenantiaid, gan sicrhau bod ein gwasanaethau eiddo yn gwrando ac yn gweithredu, i gyflawni anghenion amrywiol ein tenantiaid.

Yr hyn rydym yn chwilio amdano:

  • Profiad ar lefel weithredol mewn eiddo yn y sector tai cymdeithasol.
  • Aelodaeth siartredig o gorff proffesiynol, gyda chefnogaeth datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Sgiliau arwain datblygedig iawn, sy’n eich galluogi i ysbrydoli timau, gyrru newid sefydliadol, a datblygu talent.
  • Dealltwriaeth fasnachol gyda dealltwriaeth strategol a gweithredol o’r sector a ffocws ar ddarparu gwerth am arian.
  • Y gallu i edrych tua’r gorwelion, gan adnabod heriau a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg.
  • Gwybodaeth lywodraethu, deddfwriaethol a chydymffurfiaeth gadanr, gan sicrhau darparu cartrefi diogel, fforddiadwy yn parhau.

I ddarganfod mwy am y swydd hon ewch i www.leadatcartreficonwy.co.uk

Am drafodaeth gyfrinachol ac i gofrestru eich diddordeb, cysylltwch ag Anne Elliott yn ema ar 07875 762029

Dyddiad Cau: 12 hanner dydd 28 Mai 2025

Anne Elliot EMA Consultancy

Anne Elliott

Managing Director

01926 887272