Location: Gogledd Cymru - Cartrefi Conwy
Salary: £Cystadleuol
Posted: 1 month ago
Closes: 30 September, 2024
Contract: Full Time

Cyfarwyddwr Gweithredol - Cwsmeriaid a Chymunedau

Mae Cartrefi Conwy yn gymdeithas tai o’r radd flaenaf sydd â dros 4,000 o eiddo ar draws sir Conwy. Fel un o’r darparwyr tai fforddiadwy o safon uchel gorau a mwyaf yng Ngogledd Cymru, rydym wedi buddsoddi’n drwm yn ein cartrefi i’w codi i Safon Ansawdd Tai Cymru, ac fel rhan o’n rhaglen ddatblygu uchelgeisiol byddwn yn adeiladu tua 1,000 o gartrefi fforddiadwy, safon uchel dros y ddegawd nesaf.

Fodd bynnag rydym yn llawer mwy na dim ond darparwr tai rhagorol: rydym hefyd yn gweithio i helpu pobl i greu gwell dyfodol iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae Creu Menter, ein his-gwmni sydd wedi ennill sawl gwobr, yn fenter gymdeithasol sy’n ail-fuddsoddi ei holl elw ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth a chefnogaeth ar gyfer pobl leol. Yn ogystal â rhedeg cyfleuster gweithgynhyrchu coed modern yn y Rhyl mae Creu Menter hefyd yn cynnig gwasanaethau cynnal a chadw eiddo i’n holl ddeiliaid contract ar draws Conwy.

Yn y rôl weithredol hanfodol bwysig hon, byddwch yn rhoi ein cwsmeriaid a’n cymunedau wrth galon ein penderfyniadau gan oruchwylio darpariaeth a gwelliant parhaus ein portffolio gwasanaethau tai craidd a sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau cwsmer a gwasanaethau eiddo (yn cynnwys trwsio cynnal a chadw a boddhad cwsmeriaid) o’r radd flaenaf.

Gan weithio’n agos â’n Prif Swyddog Gweithredol a’n Tîm Arweinyddiaeth Gweithredol byddwch yn arweinydd ac yn rheolwr pobl ysbrydoledig ac yn hynod effeithiol ar lefelau gweithredol a strategol. Gan sicrhau mai data a llais y tenant sy’n arwain y ffordd at effaith gymdeithasol barhaol a chadarnhaol, byddwch yn gallu meddwl mewn ffordd wahanol a hyblyg am ffyrdd newydd o ddarparu ein gwasanaethau. Byddwn yn disgwyl i chi wneud cyfraniad arwyddocaol at gynllunio corfforaethol a llunio polisïau a strategaethau, yn ogystal a datblygu busnes a phartneriaethau drwy gyfathrebu rhagorol.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â phrofiad helaeth o arwain gwasanaeth cymhleth a heriol sy’n canolbwyntio ar leoliad penodol yn ogystal â repertoire arweinyddiaeth cyflawn. Mae ein llwyddiant wedi’i wreiddio mewn ymdriniaeth ‘un tîm’, felly mae’n rhaid i chi fod yn eiriolwr angerddol dros y math hwn o ddiwylliant sefydliadol. Byddwch yn ymroddedig i ganolbwyntio ar anghenion y cwsmer ac yn feddyliwr strategol medrus; byddwch hefyd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd agwedd ‘gallu gwneud’ lle bo hynny’n briodol. Bydd gennych hanes profedig o arloesedd a darpariaeth gadarn a rhaid i chi allu deall a dehongli setiau data a senarios cymhleth. Bydd gweithio o’n pencadlys ac yn ein cymunedau o ddydd i ddydd yn golygu bod gwybodaeth fanwl a chyfredol o’r ddaearyddiaeth yr ydym yn gweithredu ynddi yn hanfodol, a byddwch yn mwynhau’r cyfle i feithrin a chynnal partneriaethau cadarnhaol a dylanwadol o fewn a thu hwnt i Grŵp Cartrefi Conwy.

I gael gwybod mwy ewch i www.leadatcartreficonwy.co.uk Os hoffech drafod y cyfle ymhellach, ffoniwch Anne Elliott ar 07875 762029.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 30 Medi 2024.

Anne Elliot EMA Consultancy

Anne Elliott

Managing Director

01926 887272